Am Fferm Pandy

Fferm weithiol a menter gymdeithasol yw Pandy gydag 25 erw o dir sydd wedi bod ym mherchnogaeth y teulu ers 1988. Mae’r fferm yn cynnwys gerddi garddwriaethol o fewn clostir crwn, porfa, coetiroedd a gwlyptiroedd gydag afonydd sy’n rhedeg yn barhaol. Fe'i lleolir rhyw pump milltir o ddinas prifysgol Bangor a harddwch Ynys Môn ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri. Gellir cael mynediad ar droed i’r mynyddoedd yn syth o’r fferm ac mae’r llwybur beicio Lôn Las Ogwen yn rhedeg ar draws gwaelod ein tir.

Ein Gweledigaeth: Tyfu Bwyd

Tyfu bwyd yw gweledigaeth graidd ein fferm ac mae gennym ni’r pridd dwfn, dŵr rhedegog a bioamrywiaeth gyfoethog. Mae ein fferm yn cynhyrchu digon o winwns a thatws i ddarparu ar gyfer ein cymuned trwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â digonedd o fwydydd eraill. Diogelwch bwyd yw’r genhadaeth graidd, a gyda 94% o fwyd y DU yn nwylo dim ond naw cwmni enfawr, mae cymryd cyfrifoldeb am ein maeth ni ein hunain yn weithred radical. Yn ffodus mae'n rhywbeth rydyn ni hefyd wrth ein bodd yn ei wneud! Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y brys i ailstrwythuro ein rhwydweithiau bwyd a thyfu bwyd yng Nghymru. Rydym yn rhan o fudiad lleol a chenedlaethol i sicrhau bod bwyd iach, sydd wedi’i dyfu’n naturiol, ar gael i bawb.

Ein Cenhadaeth: Cynaliadwyedd

Ein cenhadaeth graidd yw cyflawni cynaliadwyedd ariannol ac ecolegol ar y fferm. Mae tyfu bwyd ar dyddyn yn llafurddwys, ac rydym yn dibynnu ar ein gwirfoddolwyr anhygoel i allu cynnal cynhyrchiant. Mae’r cymorthdaliadau enfawr a gaiff amaeth-ffermio yn golygu nad yw’r defnyddiwr yn deall gwir werth bwyd, a chredwn fod angen ailfeddwl am ein strategaeth fwyd ar raddfa genedlaethol.

O ran cynaliadwyedd ecolegol mae gennym ni goetiroedd, gwlyptiroedd, dŵr rhedegog a phriddoedd dwfn yn Fferm Pandy, gydag amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt. Mae ein holl arferion ffermio yn anelu at gefnogi'r bywyd o'n cwmpas.

Ein hanes

Mae'r tir yn cynnwys safleoedd archeolegol sy'n dyddio'n ôl 3000 o flynyddoedd. Gerllaw mae nifer o aneddiadau tai crwn Celtaidd, yn ogystal â strwythur bryngaerau o’r oes haearn. Mae'r enw Pandy yn cyfeirio at pandy ar y safle, efallai'n wreiddiol fel melin ŷd yn dyddio'n ôl i'r canol oesoedd.

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif daeth y tir i berchnogaeth teulu Pennant, a gyfoethogwyd gan elw caethwasiaeth a masnachu siwgr. Daeth cyfoeth a grym eu stad yn y Penrhyn yn enwog trwy streic chwarelwyr Bethesda rhwng 1900 a 1903.

Tân Felin Coed 2022

Ddydd Sul, Ionawr 23, 2022 fe ddinistriodd tân enfawr ein felin coed. Bu pedair injan dân yn brwydro am wyth awr i ymladd y tân a'i atal rhag lledu i'r coetir cyfagos a garej gyfagos.

Roedd y tân yn ergyd enfawr i Fferm Pandy yn ariannol ac yn logistaidd. Roedd hefyd yn golled sylweddol i'n cymuned lewyrchus o weithwyr coed. Trodd offer gwerthfawr ac unigryw dros nos yn bentyrrau o fetel wedi toddi.

Mae tîm Fferm Pandy yn gweithio'n araf i ailadeiladu'r felin goed.