Gŵyl Gweithio’r Gwanwyn

Dydd Sul, Mawrth 29 - dydd Iau, Ebrill 2

Eleni, am y tro cyntaf, mae Fferm Pandy yn rhoi cynnig i chwech bobl ymuno â'n tîm am bedwar diwrnod o weithgareddau ar y fferm. Bydd hwn yn gyfle unigryw i gyfranogwyr ddysgu am bob agwedd ar dyfu bwyd, cymryd rhan mewn cymysgedd o weithgareddau ffermio ac i fwynhau harddwch naturiol rhyfeddol Gogledd Cymru.

Amdana ni

Tîm o wyth o bobl ydym ni, rhai ohonynt yn byw ar y fferm ac eraill yn byw'n lleol ac yn gweithio ar y fferm yn rhan-amser. Mae gennym ni hefyd gymuned o wirfoddolwyr sy'n helpu'n rheolaidd ynghyd â chymuned estynedig o bobl leol sy'n mynychu ein digwyddiadau ac yn prynu llysiau sy'n cael eu tyfu ar y fferm.

Calendr Gŵyl Gweithio Pandy

Mae’r amlinelliad yn edrych fel hyn -

Yn gyfnewid am chwe sesiwn waith, bydd llety, pedwar pryd o fwyd a rennir a chyfleoedd i brofi'r gorau o'r hyn sydd gan Fferm Pandy i'w gynnig i gyfranogwyr.

Bwyd a llety

Lle a rennir i ddau: airbnb.co.uk/h/badger-place-pandy-farm (un gwely dwbl bach neu un gwely dwbl ac un fatres sengl)

Lle a rennir i bedwar: airbnb.co.uk/h/pandyfarm-tregarth (un gwely dwbl a dau wely sengl)

Sylwch y bydd angen i chi drefnu eich brecwast a'ch prydau gyda'r nos eich hun oni nodir yn wahanol, felly bydd angen i chi ddod â rhywfaint o'ch bwyd eich hun. Darperir cyfleusterau cegin.

Bydd y prydau a ddarperir gennym yn addas i'r rhan fwyaf o bobl ond ni allwn warantu opsiwn cwbl fegan, mae opsiynau di-glwten ar gael.

Darperir amrywiaeth o de a choffi yn y gweithle cymunedol bob amser.

Gofynion Cyfranogiad - mae'r rhain yn ofynion hanfodol

  • Lefel uchel o frwdfrydedd a ffitrwydd corfforol, gan gynnwys parodrwydd i weithio ym mhob tywydd

  • Profiad o ddefnyddio offer garddio sylfaenol

  • Diddordeb cryf mewn egwyddorion ffermio adfywiol

  • Sgiliau cyfathrebu da a sensitifrwydd i eraill

  • Yn gallu dilyn cyfarwyddiadau a gofyn cwestiynau i gael eglurhad os ydych yn ansicr

  • Yn gallu gweithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm

  • Yn cadw mannau gwaith yn lân ac yn daclus, yn gyfrifol am ofalu am offer fferm

  • Ymrwymiad i adael y llety'n lân ac mewn cyflwr da cyn gadael

Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, anfonwch e-bost byr at admin@pandyfarm.org yn amlinellu pam yr hoffech ymuno â ni. Cofiwch gynnwys manylion unrhyw sgiliau ymarferol sydd gennych ac unrhyw brofiad o ffermio, gweithio mewn gerddi, adeiladu ac ati.

Anfonwch eich ceisiadau at admin@pandyfarm.org erbyn dydd Gwener 13eg o Fawrth.

Unrhyw gwestiynnau?

E-bôst i Elen - admin@pandyfarm.org gyda unrhyw gwestiynnau.