Cymuned Tyfu Bwyd yng Ngogledd Cymru
Rydym yn fenter gymdeithasol, sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu ffrwythau a llysiau wedi’u tyfu’n naturiol ar gyfer ein cymuned, ein siop fferm, busnesau lleol a rhwydweithiau bwyd yr ardal. Ein gwerthoedd craidd yw cynaladwyedd cymdeithasol ac amgylcheddol, tyfu bwyd iachys a creu lle i pobl gysylltu â Natur a gyda’i gilydd.
Diweddariadau Fferm:
Diwrnod Gwirfaddolwyr Cymunedol - Dydd Sul, Mai 19, o 11am i 3pm
Mae siop Fferm Pandy ar gau dros dro ar gyfer gwaith adnewyddu.
I dderbyn diweddariadau ymunwch â'n rhestr bostio neu cysylltwch â grŵp WhatsApp y fferm.
Gwyliwch ein fideo..
Beth sydd ar gael ar Fferm Pandy..
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ffrwythau a llysiau. Mae’r holl gynnyrch yn cael ei dyfu’n naturiol, sy’n golygu nad oes unrhyw wrtaith cemegol, chwynladdwyr na phlaladdwyr yn cael eu defnyddio. Mae’n siop fferm yn cael ei hadnewyddu ar hyn o bryd ac yn ail-agor ym mis Gorffenaf. Rydym hefyd yn cyflenwi cyfanwerthu i fusnesau lleol. Cliciwch isod i ddarganfod mwy.
Bwyd Iachus
Cyfleoedd i Wirfoddoli
Rydym yn croesawu gwirfoddolwyr drwy gydol y flwyddyn ar Fferm Pandy. Mae’r gwaith yn amrywiol ac yn cynnwys bwydo’r ieir, adeiladu a helpu yn y gerddi. Fel arfer mae gennym dîm o wirfoddolwyr sy'n mwynhau archwilio'r ardal leol gyda'i gilydd. Edrychwch ar ein proffil Workaway i darllen adolygiadau ein gwirfoddolwyr blaenorol.
Digwyddiadau a Gweithdai
Mae Fferm Pandy yn cynnal digwyddiadau a gweithdai, gan flaenoriaethu gweithgareddau ecolegol a theuluol. Mae'r rhain yn cynnwys ysgol goedwig wythnosol, grwpiau natur i blant, gweithdai canu a sesiynau eco-therapi. Ymunwch â'n rhestr bostio i gael gwybod am ein digwyddiadau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal digwyddiad eich hun cysylltwch â ni drwy bookings@pandyfarm.org
Eco-dwristiaeth
Rydym yn cydnabod harddwch naturiol Eryri ac Ynys Môn, lle mae’r cyfuniad o hanes hynafol, mynyddoedd enfawr a natur gwyllt rhyfeddol yn hollol unigryw. Mae gennym nifer o adeiladau ar gael i'w harchebu drwy Airbnb i'r rhai sydd eisiau archwilio’s ardal.