Llysiau and Ffrwythau Pandy
Rydym yn tyfu amrywiaeth o fwyd ar Fferm Pandy, o winwns a thatws, i sbigoglys a ffa. Yn yr haf rydym yn tyfu mefus, mafon, mwyar duon, yn ogystal â digonedd o lus. Mae’n holl gynnyrch yn cael ei dyfu'n naturiol (dim plaladdwyr, chwynladdwyr cemegol na gwrtaith cemegol).
Cynnyrch Ffres
Bydd ein siop fferm yn ailagor yn Haf 2024 gyda chynnyrch tymhorol wedi’i gynaeafu’n ddyddiol. Rydyn ni’n rhannu’r hyn sydd ar gael yn ein rhestr bostio Siop Fferm, felly cofrestrwch os oes gennych chi ddiddordeb.
Bwyd Wedi Rhewi
Beth am ein llus wedi'u rhewi - byrstio o flas yr haf yng nghanol y gaeaf!? Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o aeron wedi'u rhewi (dim ond ar gael yn ein siop). Mae toriadau organig o'n cig oen wedi rhewi ar gael yn y siop hefyd.
Wyau Organig
Mae gennym rai o'r wyau organig mwyaf blasus o gwmpas! Os ydych chi’n byw’n lleol, mae’n siŵr y byddwch chi’n adnabod ein hieir a’n ceiliog. Mae gennym wyau hwyaid blasus hefyd - gwych ar gyfer crempog a chacennau!
Ymweld â'n Siop
Bydd ein siop yn ail-agor yn haf 2024.