Llety Ymwelwyr
Mae ein fferm ar gyrion pentref tawel, tair milltir o Barc Cenedlaethol Eryri a phum milltir o ddinas prifysgol Bangor. Rydym yn cynnig amrywiaeth o lety ecodwristiaeth mewn coetir hardd o fewn cyrraedd hawdd i olygfeydd godidog. Mae’r cyfuniad o’r iaith a stori hynafol, mynyddoedd a glannau, harddwch naturiol a bywyd gwyllt rhyfeddol yn gwneud lleoliad ein fferm yn wirioneddol unigryw.
Ein Lletu
Golygfa’r Ceiliog
Mae’r garafán sefydlog hon yn eistedd mewn cornel dawel o’n buarth gyda choetir derw y tu hwnt. Mae gegin/lle byw clyd, un ystafell wely gyda gwely dwbl ac ystafell wely arall gyda dwy welu fach. Mae patio y tu allan fainc bicnic sy'n berffaith ar gyfer gwylio ieir!
Caban y Gwenci
Cynhwysydd cludo wedi'i drawsnewid sy'n eistedd reit yng nghanol ein buarth. Heblaw am ambell hwyaden, cyw iâr a thractor sy’n mynd heibio, dyma lecyn tawel o fewn golygfa o fynyddoedd Eryri. Mae'r caban hwn ar gyfer y teithiwr anturus sy'n mwynhau'r bywyd gwledig!
Tŷ Moch Daear
Mae’r caban gwladaidd hwn yn swatio yng nghoedwig derw Pandy ac yn cynnig golygfeydd o'r ardal gyfagos, gan gynnwys Ynys Môn ac Eryri. Mae’n cynnig bath llwyn i'r rhai sydd am fwynhau bath y tu allan gyda diod yn llaw a'r haul yn machlud!