Cynhadŵyl Hydref 2025

Cynhadledd a Gŵyl

Dydd Sadwrn, Hydref 4, 2025

2pm - 11pm

Mae gan bawb hawl i fwyd llawn maeth nad yw'n costio'r blaned. Ond beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd?

Sut ydym ni'n cefnogi ein tyfwyr lleol gan sicrhau bod gan bawb fwyd fforddiadwy?

Sut allwn ni atal ein hanghenion yn y presennol rhag effeithio ar ddiogelwch bwyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol?

Dyma gwestiynau y byddwn yn eu drafod yn ein Cynhadledd nesaf, sy’n ddod â ffermwyr, garddwyr, academyddion ac ymgyrchwyr ynghyd i ofyn:

Beth yw diogelwch bwyd lleol, a pham ma’ hi’n bwysig? 

Ymunwch â ni i archwilio sut y gall ein system fwyd leol faethu pobl a lle.

Rydym yn dod â thyfwyr a chynhyrchwyr ynghyd â phobl leol i rannu sgiliau ymarferol, trafod heriau, a dathlu llwyddiannau. Mae ein rhwydwaith bwyd lleol yn gwneud mwy na rhoi prydau bwyd ar fyrddau - mae'n meithrin tirweddau bioamrywiol, yn cryfhau gwydnwch cymunedol, ac yn creu cyfleoedd economaidd sy'n fuddiol i bawb.

P'un a ydych chi'n tyfu bwyd yn yr ardal, neu'n chwilfrydig ynghylch sut mae systemau bwyd lleol yn gweithio, mae cysylltiadau gwerthfawr yma. Dewch i ddarganfod sut mae ffermydd lleol yn arloesi ac archwilio ffyrdd y gallwn gefnogi ymdrechion ein gilydd.

Mae'r cyfarfod hwn yn ymwneud ag adeiladu'r perthnasoedd sy'n gwneud ein system fwyd - a'n cymuned - yn gryfach. Gyda'n gilydd, gallwn greu dyfodol lle mae bwyd da, tir iach, a chymdogaethau ffyniannus yn mynd law yn llaw.

Beth sy’n digwydd?

Trafodaethau

Mae'r digwyddiad bwrdd crwn hwn wedi'i gynllunio i fod yn sgwrs ddeinamig a diddorol, nid yn ddarlith draddodiadol.

Y nod yw meithrin deialog sy'n mynd y tu hwnt i un persbectif, gan archwilio'r heriau a'r cyfleoedd o fewn ein system fwyd leol yng Ngogledd Cymru.

Darlithwyr

I ysbrydoli sgwrs, byddwn yn dangos ffilm fer, yn dangos enghraifft o ffermio garddwriaethol yng nghyd-destun darparu diogelwch bwyd lleol.

O fan hyn, bydd siaradwyr allweddol yn ein helpu i archwilio'r syniadau hyn ymhellach (caiff siaradwyr eu cadarnhau'n fuan - cadwch lygad allan am hyn!).

Cerdd a Dawns

Bydd y noson yn gyfle i ddathlu o dan leuad y cynhaeaf. Dyma'ch cyfle i barhau â'r sgwrs, gwneud cysylltiadau newydd, a mwynhau cerddoriaeth gan perfformwyr lleol.

Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio i ddod â lleisiau amrywiol i ddathlu ein cymuned lleol.

Tocynnau

*Tocynnau cynnar ar gael nawr *

PLANT AM DDIM (o dan 16)

Cynnar - £8

Cyffredinol - £12

Cyfrannwr £20

Noson yn unig £5

Bwyd Lleol ar gael

Rydym yn gyffrous i gydweithio â Flame and Grain wood-fired pizza a fydd yn cynnig eu bwydlen pitsa flasus sy'n llawn cynhwysion lleol.